Festival of Light
This year Small World Theatre is extending the joy of the Cardigan Giant Lantern Parade and lighting up more of the town as part of Cardigan’s first Festival of Light with the help of the community.
The Festival of Light / Gŵyl y Golau will run from 30th November to 20th December 2024 and has received financial support from the UK Shared Prosperity Fund as part of the Cynnal y Cardi Community Fund, which is administrated by the Cynnal y Cardi team on the behalf of Ceredigion County Council. As well as the magical Christmas lights and Christmas tree organised by Cardigan Town Council, there will be a Light Trail and a joined-up festival programme to include the many events happening at the end of November and in December. With permanently fixed giant lanterns on buildings, light displays, artists’ films, a light-themed exhibition at Canfas, there will be more to visit and celebrate this year.
Gŵyl y Golau
Eleni mae Theatr Byd Bach yn ymestyn llawenydd Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ac yn goleuo hyd yn oed mwy o'r dref am gyfnod hirach fel rhan o Ŵyl y Golau cyntaf Aberteifi gyda chymorth busnesau a pherchnogion siopau'r dref.
Bydd y Gŵyl y Golau yn rhedeg o 30 Tachwedd hyd 20 Rhagfyr 2024 ac mae wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin fel rhan o Gronfa Gymunedol Cynnal y Cardi, a weinyddir gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion. Yn ogystal â'r goleuadau Nadolig hudolus a'r goeden Nadolig a drefnir gan Gyngor Tref Aberteifi, bydd Trywydd Golau a rhaglen gydlynus i'r ŵyl i gynnwys nifer o ddigwyddiadau fydd yn digwydd tua diwedd Tachwedd a thrwy fis Rhagfyr. Gyda llusernau enfawr wedi'u gosod ar adeiladau, arddangosfeydd golau, ffilmiau artistiaid, arddangosfa gyda thema golau iddi yn Canfas, bydd mwy i'w weld a'i ddathlu eleni.
News
Countdown to Cardigan’s Christmas Festivities with a Festival of Light on 30 November.
20/11/24
This year Cardigan hosts an extra special Christmas experience! Festive celebrations begin on 30 November with the turning on of the town’s Christmas Lights, Cardigan Castle’s Christmas Fair, the launch of the Festival of Light Trail through the town and late-night shopping.
Gŵyl y Golau is presented by Small World Theatre and supported by Cardigan Town Council. It has received financial support from the UK Shared Prosperity Fund as part of the Cynnal y Cardi Community Fund, administrated by the Cynnal y Cardi team for Ceredigion County Council.
Join Cardigan’s Mayor Cllr Olwen Davies and Cardigan Town Council in an uplifting ceremony to turn on the Christmas Lights at The Guildhall on Saturday 30th November 4.30pm, with a choir of local school children, Santa’s grotto in The Guildhall and an illuminated Christmas tractor run!
Expect a twinkling of the town’s Christmas lights and a magnificent tree, as well as extra illuminated features on the Light Trail, with beautiful giant lanterns on buildings, artists’ films in shop windows and more.
Late night shopping on 30th November promises a delightful array of Christmas wares from our unique, independent stores. Come early and enjoy Cardigan Castle’s Christmas Fair with its wealth of craft stalls, festive food and drink on offer. All this plus a free Richards Bros. bus service between Aberaeron and Cardigan.
The festival enjoyment continues throughout December with West Wales’ finest Lantern Parade brought to you by Small World Theatre on 6th December 7pm. In the winter calendar there’s also wreath making and pottery workshops, live music, talks, exhibitions, theatre and more at various venues across the town.
Small World Theatre’s Director Ann Shosbree commented; “We created the first Cardigan Giant Lantern Parade 8 years ago. This year, we are excited to extend the festivities over 3 weeks. We are delighted by the commitment from Cardigan’s businesses to make lanterns for their windows and be part of the Light Trail. All of this will be complimented by beautiful lighting through the town, making Cardigan the most festive town in Wales!”
Cyfrif lawr at Ddathliadau Nadolig Aberteifi gyda Gŵyl y golau ar 30 Tachwedd.
Eleni mae Aberteifi’n cynnal profiad Nadolig hynod arbennig! Bydd y dathliadau tymhorol yn cychwyn ar 30 Tachwedd gyda chynnau goleuadau Nadolig y dre, Ffair Nadolig Castell Aberteifi, lansiad Trywydd Gŵyl y Golau drwy’r dref a siopa gyda’r hwyr.
Cyflwynir Gŵyl y Golau gan Theatr Byd Bach a’i gefnogi gan Gyngor Tref Aberteifi. Derbyniodd gefnogaeth ariannol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o Gronfa Cynnal y Cardi a weinyddir gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
Ymunwch â maer Aberteifi, y Cynghorydd Olwen Davies a Chyngor Tref Aberteifi mewn seremoni ddyrchafol i gynnau’r Goleuadau Nadolig yn Neuadd y Dref ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd 4.30pm, gyda chôr o blant ysgol lleol, groto Siôn Corn yn Neuadd y Dref a gorymdaith dractorau wedi’u goleuo!
Bydd golau Nadolig y dref yn siŵr o ddisgleirio ynghyd â choeden Nadolig ardderchog gyda nodweddion golau ychwanegol ar y Trywydd Golau; gyda llusernau enfawr prydferth ar adeiladau, ffilmiau artistiaid mewn ffenestri siopau a mwy.
Mae siopa gyda’r hwyr ar 30 Tachwedd yn addo dewis helaeth o gynnyrch Nadoligaidd o’n siopau annibynnol unigryw ni. Dewch yn gynnar i fwynhau Ffair Nadolig Castell Aberteifi a’i gyfoeth o stondinau crefft, ynghyd â bwyd a diod tymhorol. Hyn oll ynghyd â gwasanaeth bws am ddim gan gwmni bysiau Brodyr Richards rhwng Aberaeron ac Aberteifi.
Bydd mwynhad yr ŵyl yn parhau drwy gydol mis Rhagfyr gyda Pharêd Llusernau gorau gorllewin Cymru yn cael ei gyflwyno gan Theatr Byd Bach ar 6 Rhagfyr am 7pm. Yn y calendar gaeaf mae gweithdai creu torchau a gweithdai crochenwaith, cerddoriaeth fyw, sgyrsiau, theatr a mwy mewn sawl man ar draws y dref.
Meddai Cyfarwyddwr Theatr Byd Bach Ann Shosbree: “Fe greon ni’r Parêd Llusernau Enfawr cyntaf yn Aberteifi 8 mlynedd yn ôl. Eleni, rydyn ni wrth ein boddau yn ymestyn y dathliadau dros 3 wythnos. Rydym ni’n falch o’r ymrwymiad busnesau Aberteifi i greu llusernau enfawr ar gyfer eu ffenestri ac i fod yn rhan o’r Trywydd Golau. Bydd hwn yn cyd-fynd yn hyfryd â goleuadau drwy’r dref, gan wneud Aberteifi yn un o drefi mwyaf Nadoligaidd Cymru!”
Press
Cardigan Giant Lantern Parade is announced along with plans for a new winter festival.
3/4/24
Small World Theatre announced that Cardigan Giant Lantern Parade will be held on 6th December this year following the hugely successful revival of the town’s event in 2023. The parade will be a major event within a new Festival of Light organised by the Cardigan-based theatre company.
Ann Shrosbree, Director of Small World Theatre said:
"We know that the Cardigan Giant Lantern Parade is an exciting celebration of creativity for the town at a time when many families are looking to take part in seasonal events. In 2016 we launched the first parade with Visit Wales funding and the support of Cardigan Town Centre Partnership. We’ve continued to grow the event with enthusiasm on behalf of our community, and we hope to build on everyone’s hard work to further enhance Cardigan's festivities with a town-wide Festival of Light to support the local economy."
This project has the support of Cynnal y Cardi through Ceredigion County Council to deliver the event under the UK Government’s Shared Prosperity Fund through the Levelling Up initiative. It will include engaging with local businesses and stakeholders to highlight the many local attractions, unique independent shops, cafes, restaurants, venues and bars that justifiably make Cardigan an exciting winter destination.
Councillor Clive Davies, Ceredigion County Council’s Cabinet Member for the Economy and Regeneration, said:
“It was back in 2016 when I had the honour of being Mayor of Cardigan and we had the very first Cardigan Festival of light with its Giant Lantern Parade. Over the years this developed into a large-scale event with support from a number of funders, local organisations and volunteers. It became an attraction for people from further afield and impacted positively on the wider local retail and hospitality economy. By now even with the years of the pandemic disruption, we’ve been able to bring it back. Cardigan has a strong vein of creativity and can-do and once again Small World Theatre with their creative talent have brought together this exiting programme under a new Festival of Light. Through the funding we’re providing, this will support the continued success of the Giant Lantern Parade as well as the other planned events.”
Although December seems a long way off, plans will start in the spring. These include organising public transport to Cardigan from surrounding areas to the winter festival and working with local organisations to jointly promote their Christmas events. Councillor Elaine Evans added:
“We're all very excited to have a date in the diary for the Parade thanks to Ceredigion County Council supporting Small World Theatre. It's a magical event and one that brings great joy to residents, and especially to families."
Further details of the Festival of Light programme will be announced in the Autumn and until then, please save the date!
Cyhoeddi Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ynghyd â chynlluniau ar gyfer gŵyl aeaf newydd.
Cyhoeddodd Theatr Byd Bach y cynhelir Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ar 6 Rhagfyr eleni yn dilyn adfywiad hynod lwyddiannus y digwyddiad yn y dref yn 2023. Bydd y Parêd Enfawr yn ddigwyddiad mawr gyda Gŵyl y Goleuni wedi’’i threfnu gan y cwmni theatr o Aberteifi.
Dywedodd Ann Shrosbree, Cyfarwyddwr theatr Byd Bach:
"Rydyn ni’n gwybod fod y Parêd Llusernau Enfawr yn ddathliad cynhyrfus o greadigrwydd ar gyfer y dref ar adeg pan fod nifer o deuluoedd am gymryd rhan mewn digwyddiadau tymhorol. Yn 2016 fe wnaethon ni lansio’r parêd cyntaf gyda nawdd Croeso Cymru a chefnogaeth Partneriaeth Canol Tref Aberteifi. Rydym ni wedi parhau i dyfu’r digwyddiad gyda brwdfrydedd ar ran ein cymuned, ac rydym ni’n gobeithio adeiladu ar waith caled pawb i wella dathliadau Aberteifi fwy fyth gyda Gŵyl y Goleuni i gefnogi’r economi leol."
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cefnogaeth Cynnal y Cardi drwy Gyngor Sir Ceredigion i ddarparu’r digwyddiad o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy fenter Codi’r Gwastad. Bydd yn cynnwys ymwneud â busnesau lleol, caffis, bwytai, canolfannau a bariau fydd yn gwneud Aberteifi’n fan cynhyrfus i ymweld ag ef heb os dros y gaeaf.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio:
“Yn ôl yn 2016, cefais yr anrhydedd o fod yn Faer Aberteifi a chynhaliwyd Gŵyl y Goleuni cyntaf Aberteifi a’i Pharêd Llusernau Enfawr. Dros y blynyddoedd mae hyn wedi datblygu yn ddigwyddiad ar raddfa fawr gyda chefnogaeth gan nifer o gyllidwyr, sefydliadau lleol a gwirfoddolwyr. Daeth yn atyniad i bobl o ymhellach i ffwrdd a chafodd effaith gadarnhaol ar yr economi manwerthu a lletygarwch lleol ehangach. Erbyn hyn, hyd yn oed gyda blynyddoedd o aflonyddwch y pandemig, rydym wedi gallu dod ag ef yn ôl. Mae gan Aberteifi agwedd greadigol a rhagweithiol gref ac unwaith eto mae Theatr Byd Bychan, gyda'u dawn greadigol, wedi dod â'r rhaglen gyffrous hon ynghyd mewn Gŵyl y Goleuni newydd. Trwy’r cyllid rydyn ni’n ei ddarparu bydd hyn yn cefnogi llwyddiant parhaus Gorymdaith y Llusernau Enfawr yn ogystal â’r digwyddiadau eraill sydd wedi’u cynllunio.”
Er bod Rhagfyr yn teimlo’n bell i ffwrdd, bydd y cynlluniau’n dechrau yn y gwanwyn. Bydd y rhain yn cynnwys trefnu trafnidiaeth gyhoeddus i Aberteifi o ardaloedd cyfagos i’r ŵyl aeaf a gweithio gyda sefydliadau lleol i hyrwyddo’r digwyddiadau Nadolig ar y cyd. Ychwanegodd y Cynghorydd Elaine Evans:
“Rydym ni wedi’n cyffroi i gael dyddiad yn y dyddiadur ar gyfer y parêd diolch i gefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion o Theatr Byd Bach. Mae’n ddigwyddiad hudolus ac yn un sy’n dod â llawenydd mawr i drigolion, ac yn enwedig i deulueodd."
Cyhoeddir manylion rhaglen Gŵyl y Goleuni yn yr hydref a hyd hynny, a wnewch chi gadw’r dyddiad!